Gwirfoddoli
Gwirfoddolwch gyda Ni
Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o Hyb Cymunedol Borth, os oes gennych unrhyw amser sbâr mae Hyb Cymunedol Borth yn croesawu gwirfoddolwyr o bob oed a gallu i helpu naill ai’n rheolaidd neu’n achlysurol.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth i'ch cymuned, ennill sgiliau, cymdeithasu a gwella'ch CV ac yn bwysicaf oll cael hwyl. Mae gennym ystod eang o weithgareddau y gallwch chi wirfoddoli.
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli yn Hwb Cymunedol Borth a Hwb Natur Ynyslas. Am fwy o fanylion am rolau penodol, gweler ein disgrifiadau rol gwirfoddolwyr.
I wirfoddoli bydd angen i chi lenwi ffurflen gais.
Gallwch lenwi ein ffurflen gais gwirfoddoli ar-lein neu ofyn am ffeil drwy e-bost gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt.
Bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn eich tywys trwy'r broses sefydlu ac yn eich cefnogi yn eich profiad gwirfoddoli. Mae Hyb Cymunedol Borth yn cynnig hyfforddiant a thystysgrifau perthnasol ar gyfer oriau gwirfoddoli.
Sylwch, rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn i wirfoddoli gyda ni. Rhaid i rai dan 18 oed gael caniatâd rhiant neu warcheidwad.
Gan fod rhai o’n gweithgareddau’n cynnwys pobl sy’n agored i niwed, gall gwirfoddoli gyda’r hwb fod yn amodol ar ganlyniad cyfweliad gwirfoddoli a bydd yn amodol ar ganlyniad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
