Sied Dynion y Borth
Amrywiaeth o weithgareddau hwyliog.
Mae Men's Sheds yn annog pobl i ddod at ei gilydd i wneud, atgyweirio ac ail-bwrpasu, gan gefnogi prosiectau yn eu cymunedau lleol.

Sied Dynion
Rydym yn grŵp hwyliog, cymwynasgar a chymdeithasol. Dewch i ymuno â ni ar gyfer amrywiaeth enfawr o weithgareddau i gael cyfle i gael sgwrs a chwrdd â phobl newydd.
Ar hyn o bryd mae ein prif weithgareddau yn tueddu i fod yn cynnal a chadw beiciau, gwaith coed a phobi, ond rydym bob amser yn chwilio am weithgareddau eraill y gall pobl ddod â nhw i'r grŵp.
Mae croeso i ddynion o bob oed a gallu, felly galwch draw am baned i ddarganfod mwy.
